Sengl gyntaf albwm newydd Georgia ar y ffordd
Bydd Georgia Ruth yn rhyddhau sengl gyntaf ei halbwm newydd ar ddydd Gwener 7 Chwefror. ‘Mai’ ydy enw trydydd albwm y gantores werin o Aberystwyth, a ‘Madryn’ fydd y sengl gyntaf sy’n cael ei rhyddhau fel tamaid i aros pryd nes dyddiad cyhoeddi’r record hir ar 20 Mawrth.