Jarman yn rhyddhau fersiwn dub Cariad Cwantwm
Mae Geraint Jarman wedi rhyddhau fersiwn dub o’i albwm diweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 21 Awst. Cwantwm Dub ydy’r fersiwn newydd o’r albwm Cariad Cwantwm a ryddhawyd yn 2018, ac mae’n gwireddu breuddwyd i’r cerddor sydd wastad wedi bod eisiau rhyddhau albwm arddull reggae dub.