Gobaith ar Ddiwedd (Y Byd)

Er gwaetha’r teitl, sengl obeithiol ydy un ddiweddaraf Geraint Rhys sydd allan heddiw, 26 Mehefin. ‘Diwedd (Y Byd)’ ydy enw’r trac diweddaraf gan yr artist o Abertawe, sy’n adnabyddus am ei waith fel canwr protest ac sy’n aml â negeseuon cryf yn llifo trwy ei ganeuon.