Gig mawr i ddathlu carreg filltir i Brifysgol Aberystwyth
“Bydd dod yn ôl i Aberystwyth i chwarae yn gig dathlu 150 mlynedd y Brifysgol yn wefr aruthrol a hiraethus” – dyna eiriau un o’r artistiaid fydd yn perfformio mewn gig mawreddog i nodi pen-blwydd arbennig Prifysgol Aberystwyth eleni.