Cyhoeddi lein-yp Gig y Pafiliwn
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi lein-yp Gig y Pafiliwn eleni. Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst, ac am y bumed flwyddyn yn olynol bydd Gig y Pafiliwn yn cael ei lwyfannu gan gyfuno talentau bandiau cyfoes gyda cherddorfa’r Welsh Pops Orchestra.