The Joy Formidable i chwarae yn Gigs Cymdeithas @ Steddfod Tregaron
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi manylion lein-yp eu gigs nosweithiol yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni, gydag un enw ar y poster yn neidio allan yn arbennig.