Rhyddhau albwm Glain Rhys
Mae albwm newydd Glain Rhys allan nawr ar label recordiau I KA CHING. ‘Pan Ddaw’r Dydd i Ben’ ydy enw record hir ddiweddaraf y gantores o ardal Y Bala ac mae allan ers dydd Gwener diwethaf, 26 Mai. ‘Pan Ddaw’r Dydd i Ben’ ydy ail albwm Glain wedi iddi ryddhau ‘Atgof Prin’ yn 2018 ar label Recordiau Sain.