Griff Lynch yn rhyddhau ‘Yr Enfys’

Mae Griff Lynch wedi rhyddhau sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 29 Ebrill. ‘Yr Enfys’ ydy enw sengl unigol ddiweddaraf ffryntman Yr Ods, a dyma hefyd ydy’r trac diweddaraf i ymddangos yn y gyfres i nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.