Rhyddhau Le Kov gan Gwenno

Mae albwm gwbl Gernyweg cyntaf Gwenno, Lo Kov, wedi’i ryddhau’n swyddogol ar ddydd Gwener 2 Mawrth Rhyddhawyd yr albwm ar label Heavenly Records a gyma gynnyrch cyntaf Gwenno ers rhyddhau ei LP cyntaf, Y Dydd Olaf, yn 2014 – record Gymraeg oedd yn cynnwys un trac yn y Gernyweg arni sef ‘Amser’.

Albwm Cernyweg cyntaf Gwenno ar y ffordd

Mae Gwenno wedi cyhoeddi ei bod yn paratoi i ryddhau i ryddhau ei halbwm diweddaraf yn y gwanwyn. Mae’r artist pop electroneg o Gaerdydd wedi cael seibiant haeddiannol ers rhyddhau ei halbwm Gymraeg gwych Y Dydd Olaf yn 2015 – record gipiodd deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn gan yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig.