‘Catalunya’ ar y Cae Ras

Cafodd sengl newydd Gwilym ei chwarae am y tro cyntaf mewn amgylchiadau reit unigryw, ac arbennig iawn i un o aelodau’r grŵp dros y penwythnos. ‘Catalunya’ ydy enw sengl ddiweddaraf y grŵp ifanc o Fôn ac Arfon, a cafodd cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam y cyfle cyntaf i glywed y trac newydd wrth iddi cael ei chwarae trwy uchelseinydd stadiwm y Cae Ras cyn i’r tîm herio Fylde bnawn Sadwrn.

Pump i’r penwythnos 09/02/18

!DYDD MIWSIG CYMRU! Gig: Twrw: Papur Wal, Y Cledrau, Eadyth, The Gentle Good, Mellt, Los Blancos, Meic Stevens, DJ Garmon – Y Castle Emporium, Stryd y Fuwch Goch, Caerdydd Yn naturiol, mae rhestr hir o gigs wedi’i trefnu gan drefnwyr ar gyfer diwrnod sy’n dechrau sefydlu ei hun yn y calendr fel un o bwys, Dydd Miwsig Cymru.