Diwedd Gwobrau’r Selar
Cyhoeddwyd ar raglen Lŵp, S4C nos Wener na fydd digwyddiad Gwobrau’r Selar yn digwydd yn y dyfodol. Darlledwyd rhaglen uchafbwyntiau Lŵp o’r gwobrau eleni nos Wener (21 Chwefror) gan gynnwys perfformiadau byw o’r llwyfan a nifer o gyfweliadau gydag artistiaid a chyfranwyr cylchgrawn Y Selar.