Oriel luniau enillwyr Gwobrau’r Selar
Roedd dathliad Gwobrau’r Selar bach yn wahanol i’r arfer eleni, ond cafwyd wythnos gofiadwy wrth i ni gyhoeddi’r enillwyr ar raglenni amrywiol Radio Cymru ddechrau mis Chwefror.
Roedd dathliad Gwobrau’r Selar bach yn wahanol i’r arfer eleni, ond cafwyd wythnos gofiadwy wrth i ni gyhoeddi’r enillwyr ar raglenni amrywiol Radio Cymru ddechrau mis Chwefror.
Yn dilyn wythnos o ddathliadau ar donfeddi Radio Cymru rhwng 8 a 12 Chwefror, roedd rhaglen deledu arbennig gan Lŵp, S4C, i ddathlu enillwyr Gwobrau’r Selar yn cael ei darlledu nos Iau diwethaf, 25 Chwefror.
Wedi wythnos o gyhoeddiadau, cyfweliadau a sesiynau ar donfeddi Radio Cymru, mae rhestr enillwyr Gwobrau’r Selar bellach yn gyflawn, ac wedi bod yn ddathliad o waith caled artistiaid Cymraeg yn ystod 2020.
Bwncath sydd wedi cipio dwy wobr olaf Gwobrau’r Selar eleni, gan ei gwneud hi’n gyfanswm o dair gwobr i gyd i’r grŵp gwerin eleni.
Crynodeb o holl enillwyr Gwobrau’r Selar eleni, sy’n cael ei ddiweddaru wrth iddynt gael eu cyhoeddi ar raglenni Radio Cymru … Darllen rhagorRhestr enillwyr Gwobrau’r Selar 2020
Mae cefnogi artistiaid ifanc yn bwysig iawn i’r Selar, ac mae hynny’n aml yn ymestyn y tu hwnt i artistiaid cerddorol yn unig.
Pleser oedd datgelu heno mai enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni ydy Gwenno. Cyhoeddwyd y newyddion gan Huw Stephens yn fyw ar ei raglen Radio Cymru, ac roedd sgwrs estynedig rhwng Huw a Gwenno’n ddiweddarach ar y rhaglen.
Diwrnod mawr arall heddiw wrth i ni ddathlu Gwobrau’r Selar mewn cydweithrediad â Radio Cymru. Prynhawn yma, ar raglen Ifan Evans fe gyhoeddwyd mai ‘Hel Sibrydion’ gan Lewys oedd enillydd teitl ‘Cân Orau’ Gwobrau’r Selar eleni.
Cyhoeddwyd enillwyr dwy o Wobrau’r Selar heno ar raglen Radio Cymru Siân Eleri. Ar ôl cipio teitl ‘Seren y Sîn’ ddoe, bydd rhaid i Mared wneud bach mwy o le ar y silff ben tân gan iddi hefyd gael ei chyhoeddi fel enillydd gwobr ‘Artist Unigol Gorau’.