Agor pleidlais Gwobrau’r Selar
Mae’r bleidlais gyhoeddus i ddewis enillwyr Gwobrau’r Selar eleni ar agor nawr. Ers nos Lun 10 Ionawr mae modd i unrhyw un fwrw pleidlais dros 9 o’r categorïau sy’n cynnwys ‘Band Gorau’, ‘Record Hir Orau’, ‘Seren y Sin’ a ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’.