‘Beth am y Soyuz?’ – rhyddhau sengl newydd Hap a Damwain
Mae’r grŵp Hap a Damwain yn dal eu gafael yn y goron fel un o fand mwyaf bywiog y cyfnod cloi, gyda sengl newydd allan ddydd Gwener yma, 17 Gorffennaf.
Mae’r grŵp Hap a Damwain yn dal eu gafael yn y goron fel un o fand mwyaf bywiog y cyfnod cloi, gyda sengl newydd allan ddydd Gwener yma, 17 Gorffennaf.
Mae’n bleser gan Y Selar gyflwyno sengl newydd sbon Hap a Damwain, ‘Yuri Gagarin’. Dyma chi un o fandiau bywiocaf cyfnod y cloi mawr yng Nghymru heb os – mae Hap a Damwain eisoes wedi rhyddhau dau EP yn ystod cyfnod y cloi, sef ‘Ynysig #1’ a ryddhawyd ym mis Mai, ac ‘Ynysig #2’ a ryddhawyd fis Mehefin.
Mae’r grŵp Hap a Damwain wedi rhyddhau eu ail EP yn ystod cyfnod y cloi mawr ar eu safle Bandcamp. ‘Ynysig #2’ ydy enw’r casgliad byr newydd o ganeuon, ac mae’n dilyn ‘Ynysig #1’ a ryddhawyd yn ddigidol ganddynt fis diwethaf.
Mae’r grŵp Hap a Damwain wedi rhyddhau EP newydd ar eu safle Bandcamp. Ynysig #1 ydy enw’r casgliad byr newydd o ganeuon, ac mae’n cynnwys pedwar trac – mae dau o’r rhain, sef ‘Methodist’ a ‘Tŷ Baw’ eisoes wedi’u rhyddhau fel senglau, ond mae’r ddau drac arall, ‘Tybio’ a ‘Tagsville UK’ yn gweld golau dydd am y tro cyntaf.
Mae’r grŵp newydd sy’n cynnwys wynebau cyfarwydd i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru wedi llwyddo i recordiau a chyhoeddi cwpl o draciau newydd yn ystod y cyfnod yma o ynysu.