heddlu yn ôl gydag ail albwm
Mae heddlu, sef prosiect diweddaraf cerddor amlwg o Geredigion, wedi rhyddhau albwm newydd. Tramor ydy enw’r record hir sydd allan ar label Zawn Records. heddlu yw prosiect diweddaraf Rhodri Daniel, gynt yn aelod o’r band Estrons a ddenodd sylw gan gyhoeddiadau’r NME, Vice, DIY, Clash, The Guardian a’r Independent yn ogystal â gorsafoedd radio BBC Radio 6 a Radio X.