HMS Morris yn rhyddhau EP Pastille
Mae EP newydd HMS Morris, Pastille, wedi’i ryddhau’n swyddogol ers dydd Gwener diwethaf, 4 Rhagfyr. Mae’r EP yn cynnwys y gyfres o senglau sydd wedi’u rhyddhau gan y grŵp yn ystod 2020.
Mae EP newydd HMS Morris, Pastille, wedi’i ryddhau’n swyddogol ers dydd Gwener diwethaf, 4 Rhagfyr. Mae’r EP yn cynnwys y gyfres o senglau sydd wedi’u rhyddhau gan y grŵp yn ystod 2020.
Mae HMS Morris wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Partypooper’, ers dydd Gwener diwethaf 6 Tachwedd.
Ar ôl cyhoeddi dyddiad rhyddhau eu sengl ddiweddaraf wythnos diwethaf, mae HMS Morris bellach wedi cyhoeddi dyddiad rhyddhau EP newydd cyn diwedd y flwyddyn hefyd.
Mae HMS Morris wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau eu sengl nesaf ar ddydd Gwener 6 Tachwedd. Enw’r sengl newydd ydy ‘Partypooper’ a bydd yn cael ei rhyddhau ar y llwyfannau digidol arferol gan label Bubblewap Records.
Roedd cyfle i weld dau fand Cymraeg yn perfformio fel rhan o fersiwn rhithiol o ŵyl arddangos (showcase) cerddorol ‘Waves Vienna’ dros y penwythnos.
Bydd HMS Morris yn rhyddhau eu sengl newydd ar 16 Medi. ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n dilyn y ddwy sengl a ryddhawyd cyn cyfnod y cloi mawr, ‘Babanod’ a ‘Poetry’, i gwblhau’r gyfres o dair.
Mae set fer fyw gan HMS Morris yn fyw o’u cartref i’w weld ar sianel YouTube cyfres Lŵp, S4C. Mae Heledd a Sam, o’r grŵp fel y rhan fwyaf o’r boblogaeth, yn ynysu yn eu cartref ar hyn o bryd ond maent wedi llwyddo i ffilmio’r 3 trac byw wrth wneud hynny.
Mae HMS Morris wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Mercher 1 Ebrill. ‘Poetry’ ydy enw’r trac diweddara i ymddangos gan y grŵp psych-pop electronig a label Recordiau Bubblewrap sy’n gyfrifol am ryddhau.
Fel y gwyddoch, rydan ni rili yn hoffi HMS Morris yma yn Y Selar, felly mae clywed fod sengl newydd sbon ar fin dod allan ganddyn nhw wedi rhoi gwên fawr ar yr wyneb 😀 Enw’r trac newydd gan y triawd ydy ‘Babanod’, a bydd yn cael ei ryddhau gan label recordiau Bubblewrap Collective ar 7 Chwefror.