Hudo’n codi o lwch Y Promatics
Hudo ydy enw’r band newydd sy’n cynnwys dau aelod oedd yn arfer bod yn y band Y Promatics. Roedd Y Promatics yn fand amlwg rhwng tua 2005 a 2010 gan ffurfio’n wreiddiol yn Nyffryn Nantlle, cyn ymsefydlu’n rhannol yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod gan gigio tipyn yn y ddinas.