Fideo sengl Nadolig Hyll ar Lŵp

Mae fideo ar gyfer sengl ddiweddaraf y grŵp Hyll wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C. Sengl Nadolig o’r enw ‘Noson ‘Dolig wrth y Bar’ ydy’r trac diweddaraf i ymddangos gan Hyll, ac mae’n ymuno a’r doreth o senglau Nadolig Cymraeg newydd sydd wedi’u rhyddhau dros y cwpl o wythnosau diwethaf.

Fideo sesiwn a sengl Hyll

Mae cyfres Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo sesiwn o’r grŵp Hyll yn perfformio’r gân ‘Taliesin’. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o fideos sesiwn o’r fath gan Lŵp ac mae wedi’i ffilmio yng Nghaerdydd gydag Iwan, prif ganwr y grŵp, yn canu’r trac.

Fideo Womanby II

Mae’r grŵp o Gaerdydd Hyll wedi cyhoeddi fideo newydd ar eu sianel YouTube. ‘Womanby II’ ydy’r fideo, ac mae’n ddilyniant i’r sengl ‘Womanby’ a ryddhawyd gan Hyll yn 2019.