Fideo Womanby II

Mae’r grŵp o Gaerdydd Hyll wedi cyhoeddi fideo newydd ar eu sianel YouTube. ‘Womanby II’ ydy’r fideo, ac mae’n ddilyniant i’r sengl ‘Womanby’ a ryddhawyd gan Hyll yn 2019.

EP ac aelod newydd Hyll

Mae EP cyntaf y grŵp ifanc o Gaerdydd, Hyll, allan ar label Recordiau JigCal nawr. Mae’r casgliad byr newydd yn dilyn dwy sengl sydd eisoes wedi’u rhyddhau ar label Meilir Gwynedd, sef ‘Diwedd Gwanwyn Tragwyddol Max Rockatansky’ ym Mehefin 2016, ac ‘Ysgol’ a ryddhawyd fel sengl ddwbl ar y cyd â’r grŵp ifanc arall o’r brifddinas, Cadno ym mis Hydref llynedd.