Lleuwen yn rhyddhau ‘Y Gair’
Mae Lleuwen wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf sy’n ei gweld yn cyd-weithio gydag artist annisgwyl. ‘Y Gair’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers 20 Rhagfyr, ac mae’r gantores dalentog wedi cyd-weithio gyda’r actor Wynford Ellis Owen ar y gân.