Lleuwen (Llun: Emyr Young)

Taith capeli a fideo Lleuwen

Ym mis Chwefror, bydd Lleuwen yn perfformio cyfres o gigs acwstig mewn capeli yng Nghymru. Yn ogystal â Lleuwen, bydd gwestai gwadd gwahanol yn perfformio neu drafod themâu ysbrydol sydd ynghlwm ag albwm diweddaf y gantores, sef Gwn Glân Beibl Budr.