‘Tôn Gron’ Lloyd Steele

Mae Lloyd Steele yn ôl gyda sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 9 Mehefin. ‘Tôn Gron’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh, ac fel mae’r enw’n awgrymu mae’r gân yn siŵr o fynd rownd a rownd yn eich pen.