Gwobr Llwybr Llaethog i Serol Serol
Y grŵp o Ddyffryn Conwy, Serol Serol, ydy’r diweddaraf i dderbyn ‘Gwobr Gerddorol Llwybr Llaethog’. Ers rhyw bum mlynedd bellach mae John a Kevs, aelodau’r grŵp amgen, Llwybr Llaethog, wedi bod yn dyfarnu eu ‘Gwobr Gerddorol’ i rywun am eu cyfraniad arbennig i gerddoriaeth Gymreig.