Rhyddhau EP Los Blancos

Mae EP newydd Los Blancos allan ers ddoe, 6 Awst ar label Recordiau Libertino. Mae’r grŵp o Sir Gâr wedi sefydlu eu hunain fel un o fandiau mwyaf cyffrous Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ond fel gymaint o artistiaid eraill, fe roddodd y clo mawr stop ar eu cynlluniau tymor byr.

Cyfle cyntaf i weld…fideo ‘Dilyn Iesu Grist’ gan Los Blancos

Mae’r grŵp gwych o’r gorllewin, Los Blancos, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers pythefnos, ac mae’r Selar yn falch iawn i gynnig y cyfle cyntaf i chi weld y fideo newydd ar gyfer y sengl. ‘Dilyn Iesu Grist’ ydy enw’r trac, ac mae’n gân sy’n trafod rhethreg gwag a sut gall nonses pur ar bethau fel y cyfryngau cymdeithasol swnio’n ddwys.