Tocynnau cynnar Maes B 2020 ar werth
Mae yr Eisteddfod Genedlaethol wedi rhyddhau tocynnau ‘bargen gynnar’ ar gyfer gigs Maes B 2020. Bydd yr Eisteddfod, a gigs Maes B, yn cael eu cynnal yn Nhregaron, Ceredigion fis Awst nesaf, gyda phedair noson o gigs Maes B rhwng 5 a 9 Awst.