EP cyntaf Maes Parcio ar fin glanio
Bydd Maes Parcio, y band roc ifanc o Arfon a Môn, yn rhyddhau eu EP cyntaf o’r enw Nodiadau ar Gariad a Gwleidyddiaeth ddydd Gwener yma, 8 Medi.
Bydd Maes Parcio, y band roc ifanc o Arfon a Môn, yn rhyddhau eu EP cyntaf o’r enw Nodiadau ar Gariad a Gwleidyddiaeth ddydd Gwener yma, 8 Medi.
Mae’r band ifanc sydd ag aelodau o Gaernarfon ac Ynys Môn, Maes Parcio, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 2 Mehefin. ‘Chwdyns Blewog’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label INOIS a dyma ydy ail sengl Maes Parcio gan ddilyn ‘Sgen Ti Awydd?’ a ryddhawyd ym mis Tachwedd llynedd.
Gruffudd ab Owain sy’n awgrymu pa artistiaid ifanc ddylai dilynwyr Y Selar gadw llygad arnyn nhw dros y flwyddyn i ddod… Roedd pryder ymysg nifer fod y pandemig a’i sgîl-effeithiau wedi dod â rhwystrau i gerddorion ifanc newydd yng Nghymru, ac y byddai’n her ennyn diddordeb a ffurfiant bandiau newydd wedi’r cyfnodau clo.
Sengl gan y band pync ifanc Maes Parcio ydy’r cynnyrch diweddaraf i’w ryddhau ar label newydd INOIS.
Mae’r grŵp ifanc o’r gogledd, Maes Parcio, wedi rhyddhau eu trac cyntaf ar safle Soundcloud. ‘Chwdyns Blewog’, ydy enw’r trac newydd gan y grŵp sydd ag aelodau o Gaernarfon, Môn a Bethesda a dyma’r cynnyrch cyntaf iddynt gyhoeddi i’r byd.