Ail wobr i Mared, a chyntaf i Malan
Cyhoeddwyd enillwyr dwy o Wobrau’r Selar heno ar raglen Radio Cymru Siân Eleri. Ar ôl cipio teitl ‘Seren y Sîn’ ddoe, bydd rhaid i Mared wneud bach mwy o le ar y silff ben tân gan iddi hefyd gael ei chyhoeddi fel enillydd gwobr ‘Artist Unigol Gorau’.