Defod Eisteddfod yn ysbrydoli Mali Hâf
‘Oes ’na Heddwch?‘ ydy enw’r sengl ddiweddaraf amserol i’w rhyddhau gan Mali Hâf. Gan ddatblygu ei chymysgedd unigryw o ddiwylliant Cymru a phop amgen, mae Mali Hâf yn dychwelyd gyda thrac sydd wedi’i ysbrydoli gan un o ddefodau pwysicaf yr Eisteddfod Genedlaethol.