Mali Hâf yn rhyddhau sengl ar Sain

Mae Mali Hâf wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Be Sydd Nesaf’, ar label Recordiau Sain. Mae’r artist addawol wedi bod yn gynhyrchiol iawn hyd yn hyn yn 2021 gan ryddhau nifer o senglau a chydweithio gyda’r cynhyrchydd Shamoniks a’i label, Recordiau UDISHIDO.