Albwm Mared yn agosau

Mae’n ymddangos fod y gwaith ar albwm cyntaf Mared Williams yn agosau at gael ei gwblhau. Wythnos diwethaf, datgelodd Stiwdio Drwm eu bod yn brysur yn cymysgu record hir y gantores o Lanefydd sydd ar hyn bryd yn ran o gast sioe Les Mis yn y West End.