Rhyddhau Albwm Mared

Mae Mared wedi rhyddhau ei halbwm newydd ddydd Gwener diwethaf, 21 Awst. ‘Y Drefn’ ydy enw record hir gyntaf y gantores dalentog o Lanfairtalhaiarn ger Abergele ac mae cryn edrych ymlaen at y casgliad yn dilyn rhyddhau cyfres o senglau fel tameidiau i aros pryd.