Cyhoeddi fideo Mei Emrys – ‘Goleudy’
Mae fideo newydd gan Mei Emrys wedi ei gyhoeddi ar gyfer ei drac ‘Goleudy’ yn ddiweddar. Mei sydd wedi talu am greu’r fideo ei hun, ac fe’i cynhyrchwyd gan Gwmni Amcan, sef cwmni Dafydd Huws, drymiwr Cowbois Rhod Botwnnog.