‘Dyddiau Gwell i Ddod’ medd Mei

Bydd Mei Gwynedd yn rhyddhau ei drydedd sengl o’r flwyddyn ddiwethaf ar ddydd Gwener 21 Mai. ‘Dyddiau Gwell i Ddod’ ydy enw’r trac newydd gan Mei sy’n ddilyniant i’r senglau ‘Awst 93’ (a ryddhawyd ym Mehefin 2020) a ‘Dim Ffiniau’ (Hydref 2020).