Cyhoeddi dyddiad rhyddhau EP newydd Mei Gwynedd
Mae Mei Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau ei EP newydd ddydd Gwener 18 Ionawr. Mae enw’r EP newydd yn rhannu enw’r sengl a ryddhawyd ganddo ddiwedd mis Tachwedd, sef ‘Tafla’r Dis’, a bydd yn cael ei rhyddhau ar label Mei ei hun, sef Recordiau Jigcal.