Ni fydd Meic Stevens yn perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd
Ar ôl cyhoeddi ei enw wythnos diwethaf fel un o’r don ddiweddaraf o berfformwyr yn yr ŵyl eleni, mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cyhoeddi na fydd Meic Stevens yn perfformio yno ym mis Awst wedi’r cyfan. 15 – 18 Awst ydy dyddiad yr ŵyl yn y Bannau Brycheiniog, eleni a cyhoeddwyd y byddai Meic Stevens yn perfformio yno wythnos diwethaf.