Melda Lois yn cofio ‘Tofino’

Mae Melda Lois wedi rhyddhau ei hail sengl, ‘Tofino’,  ar label recordiau I KA CHING. Dyma’r cynnyrch diweddaraf gan yr artist newydd o ardal Y Bala, gan ddilyn ei sengl gyntaf,  ‘Bonne Nuit Ma Chérie’, a ryddhawyd fis Rhagfyr ac a ddewiswyd fel Trac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru’n ddiweddar.

Rhyddhau sengl Melda Lois ar I KA CHING

Yr artist cerddorol o ardal Y Bala, Melda Lois, ydy’r ddiweddaraf i ymuno â label I KA CHING. I nodi’r newyddion mae hefyd wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ar y label ers dydd Gwener diwethaf, 8 Rhagfyr.   ‘Bonne Nuit Ma Chérie’ ydy enw’r trac newydd gan Melda ac mae’n gân fydd yn taro tant gyda sawl un mae’n siŵr.