Deunydd newydd cyntaf Melys ers bron 20 mlynedd
Mae’r band profiadol a phoblogaidd o Ddyffryn Conwy, Melys, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 29 Tachwedd. ‘Santa Cruz’ yw’r sengl gyntaf o albwm newydd Melys, sydd i ddilyn yn fuan yn 2025.