Rhifyn newydd zine Merched yn Gwneud Miwsig
Mae trydydd rhifyn y zine Merched yn Gwneud Miwsig wedi’i gyhoeddi’n ddigidol. Prosiect sy’n cael ei redeg gan Maes B ydy Merched yn Gwneud Miwsig er mwyn hybu ac annog gweithgarwch merched yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.