Rhyddhau albwm cyntaf Morgan Elwy

Mae Morgan Elwy wedi rhyddhau ei albwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 7 Mai. Mae’r cerddor o Ddyffryn Clwyd yn gyfarwydd ers rhai blynyddoedd fel aelod o’r grŵp Trŵbz ond wedi dechrau gwneud enw i’w hun fel artist unigol ers dechrau’r flwyddyn gyda chyfres o senglau.