Sengl newydd Mr

Mae Mr (Mark Roberts) wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 19 Gorffennaf. ‘Rhag Dy Gywilydd Di’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y cerddor profiadol fu’n aelod blaenllaw o’r grwpiau Y Cyrff, Catatonia ac Y Ffyrc ymysg eraill.