Alffa sydd flaena’
Rydan ni’n hoffi meddwl ein bod ni’n gallu adnabod talent a photensial yma yn Y Selar. A theg dweud ein bod ni’n falch iawn o weld ein ffydd ym mhotensial Alffa’n cael ei ategu wrth i’r grŵp ifanc o Lanrug gipio teitl Brwydr y Bandiau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ddydd Mercher diwethaf.