Cyfle cyntaf i weld…fideo ‘Lleuad Ddu’ gan Parisa Fouladi

Wrth i Gymru herio Iran yng Nghwpan y Byd heddiw, mae’n briodol iawn fod y gantores Gymreig-Iranaidd o Gaerdydd, Parisa Fouladi, yn rhyddhau ei sengl newydd hefyd. ‘Lleuad Ddu’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n dilyn llwyddiant senglau blaenorol Parisa, sef ‘Siarad’, ‘Achub Fi‘ a ‘Cysgod yn y Golau‘.

Fideo ‘Cysgod y Golau’ gan Parisa Fouladi

Mae’r gantores Parisa Fouladi wedi cyhoeddi fideo ar gyfer ei sengl ddiweddaraf, ‘Cysgod y Golau’. Rhyddhawyd ‘Cysgod y Golau’ fel sengl ar 26 Tachwedd 2021 a dyma sengl unigol ddiweddaraf y gantores Gymreig-Iranaidd, Elin Fouladi, sydd wedi perfformio dan yr enw El Parisa yn y gorffennol, ac sydd hefyd yn aelod o’r grŵp pop siambr, Derw.