Cyhoeddi Lein-yp Parti Ponty
Mae Gŵyl Parti Ponty ym Mhontypridd wedi cyhoeddi manylion eu harlwy gerddorol eleni. Cynhelir yr ŵyl flynyddol gan y Fenter Iaith leol, sef Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, a’r dyddiad eleni ydy 13 Mai gyda’r gweithgareddau’n digwydd ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd.