Phil Gas a’r Band yn rhyddhau clasur o garol
Mae Phil Gas a’r Band wedi rhyddhau sengl Nadoligaidd newydd ers dydd Mawrth 1 Rhagfyr. Fersiwn newydd o garol plygain enwog ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’ ydy’r sengl newydd, gyda’r geiriau wedi’u hysgrifennu gan David Hughes (Eos Iâl) yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.