Sengl gyntaf PRIØN allan heddiw

Mae’r ddeuawd canu gwlad amgen newydd PRIØN yn rhyddhau eu sengl gyntaf heddiw, 11 Hydref. ‘Bur Hoff Bau’ ydy enw’r sengl newydd gan y ddeuawd sy’n cynnwys un wyneb a llais cyfarwydd iawn i’r sin gerddoriaeth gyfoes yng Nghymru, ac un arall sy’ efallai’n fwy cyfarwydd ar lwyfannau mwy traddodiadol.