Cyhoeddi manylion Psylence ’24
Mae lleoliad Pontio ym Mangor wedi cyhoeddi manylion gŵyl Psylence eleni. Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd y byddai’r ganolfan gelfyddydol ym Mangor yn cyflwyno’r penwythnos hwn o ddigwyddiadau arbennig fis Hydref i ddathlu a chofio cyfaill a chydweithiwr, Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst).