Sengl ddiweddaraf Pwdin Reis

Mae’r band bywiog o Sir Gâr, Pwdin Reis, wedi rhyddhau eu sengl newydd. ‘Paid Ti’ ydy enw’r cynnig diweddaraf ganddynt sydd allan ers 12 Mehefin, ond a fydd eisoes yn gyfarwydd i lawer wedi iddi gael ei pherfformio’n fyw mewn gigs niferus dros Gymru gyfan.

Pwdin Reis a Winwns Coch

Mae’r band rockabilly hwyliog, Pwdin Reis, yn ôl gyda sengl newydd, ‘Winwns Coch’ . Pwdin Reis ydy’r casgliad o gerddorion profiadol Betsan Haf Evans (llais), Neil Rosser (gitâr), Rob Gillespie (Drymiau) a Norman Roberts (bas dwbl).

Sengl newydd Pwdin Reis

Mae’r band rockabilly o’r gorllewin, Pwdin Reis, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 2 Awst.  ‘Os ti moyn dawnsio ’da fi’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label  Recordiau Reis.