Sengl ddwbl prosiect electro Keyala
Mae’r prosiect electroneg, Keyala, wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd ar label Recordiau HOSC. ‘Chdi / Ynof Fi’ ydy enw’r traciau newydd, a dyma’r cynnyrch diweddaraf i ymddangos trwy’r label newydd sy’n canolbwyntio ar ryddhau cerddoriaeth electroneg.