Ail-ryddhau Senglau Label Boobytrap
Mae casgliad clwb senglau label Boobytrap wedi’i ryddhau’n ddigidol am y tro cyntaf wythnos yma. Boobytrap oedd y label recordiau yng Nghaerdydd oedd yn cael ei redeg gan y cyflwynydd radio Huw Stephens a’i ffrind ysgol Geraint John, ynghyd â’r cynhyrchydd Greg Haver a’r technegydd cerddorol, Ceri Collier.