Côsh yn noddi crysau pêl-droed merched Bethel
Bydd label Recordiau Côsh yn noddi crysau tîm pêl-droed Merched Bethel ar gyfer y tymor 2021/22. Dyma’r ail waith i’r label, sy’n cael ei redeg gan y cerddor a chyn bêl-droediwr Yws Gwynedd, noddi’r tîm a bydd logo Côsh yn cael ei weld ar gaeau pêl-droed y gogledd dros y tymor.